Cystadleuaeth Llyn Idwal
2007
Cynhaliwyd cystadleuaeth bysgota pluen yn Llyn Idwal Nos Wener
y 6ed o Orffennaf.
Y wobr i'r sawl a lwyddai fyddai cwpan a gyflwynwyd i'r Gymdeithas
gan deulu'r diweddar Eryl Jones o Bont Uchaf a fu'n aelod
brwdfrydig a gweithgar o'r Gymdeithas am flynyddoedd maith. Prif
bleser Eryl wrth bysgota fyddai ceisio twyllo rhai o'r brithyll
brown gwyllt o un o lynnoedd y Gymdeithas.

'Cwpan Eryl'
Mentrodd dau ar bymtheg o w?r a bechgyn dewr i Gwm Idwal ar noson
oer a gwlyb, a oedd yn debycach i noson o aeaf na noson o haf.

Ffôl neu ddewr?
Sylweddolai pawb na fyddai'r pysgota yn hawdd iawn oherwydd y
tywydd. Prin iawn oedd y pysgod a welwyd yn codi i'r wyneb, yn
amlwg roeddent hwy yn gallach na'r pysgotwyr. Wedi tair awr o
bysgota caled dim ond wyth o bysgod a ddaliwyd, dychwelwyd y rhan
fwyaf ohonynt yn ôl i'r llyn.
Enillwyd y gystadleuaeth gan Daniel Lewis o Lanfairfechan gyda
brithyll 12 owns.
Cyflwynwyd y gwpan iddo gan Gwyn Jones, mab Eryl.
Bydd Daniel yn cadw'r gwpan am flwyddyn, gan obeithio y cawn well
tywydd y flwyddyn nesaf ar gyfer y gystadleuaeth.

Gwyn Jones a Daniel Lewis