Cylchlythyr
1 Chwefror 2005
Cyfarfod
Blynyddol 2004
Dyma brif bwyntiau Cyfarfod Blynyddol 2004
1) Mae rhai newidiadau wedi eu gwneud i reolau'r Gymdeithas eleni,
gwnewch yn siwr eich bod yn eu darllen wedi i chi brynu eich trwydded.
Cyfrifoldeb yr unigolyn yw sicrhau eu bod yn gyfarwydd â
rheolau'r Gymdeithas.
2)
Bu gostyngiad yn y nifer o aelodau a gododd drwydded y flwyddyn
ddiwethaf, mae'r Pwyllgor Gwaith yn erfyn ar i bawb godi trwydded
eleni er mwyn diogelu dyfodol y Gymdeithas ac er mwyn cadw cost
y drwydded cyn ised â phosib. Os oes gennych gyfeillion
sydd yn pysgota ac yn byw tu allan i ddalgylch y Gymdeithas gallent
gael trwydded gonsesiwn i'w galluogi i bysgota'r dyfroedd - gellir
cael mwy o fanylion am hyn gan yr Ysgrifennydd.
3)
Oherwydd y gostyngiad yn yr aelodaeth y llynedd mae pris y drwydded
ar gyfer eleni wedi codi ychydig. Oedolion- £65, Consesiwn-
£65, Pensiynwyr- £40, 12 i 16 oed- £25, o dan
12- £10
4)
Er mwyn ceisio hybu mwy o ddefnydd o'r cychod ar Llyn Ogwen bydd
tocyn Fin Nos ar gael eleni o 4:00 y.h.am £2.50. Bydd tocyn
diwrnod llawn yn dal ar gael am £5.
i) Rhoddir blaenoriaeth i'r sawl sydd yn bwcio cwch am ddiwrnod
llawn.
ii)Ni ellir bwcio cwch ar gyfer y Fin Nos tan ar ôl 1:00
y.p.ar y diwrnod.
5) Bydd pob oedolyn fydd yn archebu trwydded yn cael 1 tocyn Fin
Nos i'w ddefnyddio ar y
cychod yn Llyn Ogwen am ddim, bydd hwn ar flaen y drwydded.
i) Ni fydd modd bwcio cwch gyda thocyn am ddim ymlaen llaw.
ii) Rhoddir blaenoriaeth i'r sawl sydd yn talu am ddefnyddio'r
cwch.
iii)Un waith yn unig all aelod ddefnyddio ei docyn am ddim. Arwyddir
y tocyn yng Nghaffi Rhaeadr
Ogwen pan fydd yr aelod yn casglu goriad y cwch i ddangos ei fod
wedi defnyddio ei docyn.
6) Mae'r siacedi achub wedi eu tynnu o'r cwt cwch gan nad oeddent
yn cyrraedd y safon
angenrheidiol, cyfrifoldeb y sawl sydd yn defnyddio'r cychod yw
sicrhau fod ganddynt siaced achub
addas.
Swyddogion
Llywydd - John Davies, Cadeirydd/Trysorydd - Bryn Evans, Ysgrifennydd
- Iorwerth Griffith.
Cwpan
Thomas Alfred
Enillwyd cwpan Thomas Alfred am y pysgodyn trymaf i'w ddal yn
yr afon y llynedd gan Gwyn Jones
gydag eog 14 pwys 12 owns.
Stocio
Bwriedir stocio Llyn Ogwen yn ystod wythnos ddiwethaf y misoedd
canlynol -
Ebrill, Mai, Mehefin, Gorffennaf ag Awst.
2004
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gwnaethpwyd llawer o waith ar ein
dyfroedd, dyma'r prif bwyntiau-
1)
Cychod - gwaith cynnal a chadw ar y cwt a'r cychod .
2) Tyfiant yn Llyn Ogwen - bu llawer ymgais i geisio rheoli rhywfaint
ar y tyfiant yn ardal y llechi,
mae'r pwyllgor wrthi yn ymgynghori gyda'r Cyngor Cefn Gwlad ag
Asiantaeth yr Amgylchedd i
geisio gwella'r sefyllfa.
3) Llyn Dan Cob - mae gwaith cynnal a chadw sylweddol wedi ei
wneud yma gydag argae newydd
wedi ei chodi yn lle'r un gafodd ei golchi ffwrdd flynyddoedd
yn ôl. Oherwydd llifogydd
diwedd yr haf diwethaf ni chafodd y gwaith ei gwblhau felly bydd
hyn yn cael ei orffen eleni
ynghyd â gwaith yn Llyn Wern a Llyn John Hughes.
4) Sicrhawyd addewid i gael cyfleusterau ar gyfer yr anabl yn
Llyn Ogwen, gobeithir gwneud y gwaith
eleni.
Pwyllgor
Gwaith
Mae angen aelodau newydd ar gyfer y Pwyllgor Gwaith, os oes genych
ddiddordeb neu os gwyddoch
am unrhyw un a fyddai â diddordeb yna cysylltwch â'r
Ysgrifennydd.