Yn ôl i'r rhestr adroddiadau

Cylchlythyr 2 Gorffenaf 2005


1. Cyfarfod Blynyddol
Cynhelir y Cyfarfod Blynyddol yng Nghanolfan Cefnfaes ar Nos Fercher, 30ain o Dachwedd,
am 7:15 yr hwyr.
Os oes gan unrhyw aelod o'r Gymdeithas fater i'w godi yn y cyfarfod dylid gyrru'r manylion mewn llythyr at yr Ysgrifennydd i'w gyrraedd dim hwyrach na phythefnos cyn dyddiad y cyfarfod.
(H.Y. erbyn dydd Mercher 16 o Dachwedd.)

2. Cystadleuaeth Llyn Ogwen
Bydd y gystadleuaeth eleni yn cael ei chynnal ar Ddydd Sul, 7fed o Awst, rhwng 10:00 y bore a 3:00 y prynhawn. Gofynnir i bawb gyfarfod yn y maes parcio ger Pen Bryn Melyn i gofrestru mewn da bryd i gael dechrau pysgota am ddeg.
Rheolau'r gystadleuaeth
1. Gwaherddir pysgota yn y llyn o awr wedi machlud yr haul Nos Sadwrn, 6ed o Awst tan ddechrau'r gystadleuaeth am 10:00, yn ogystal gwaherddir unrhyw un sydd ddim yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth rhag pysgota yn y llyn tan ddiwedd y gystadleuaeth.
2. Ni fydd y 'bag limit' arferol ar gyfer Llyn Ogwen mewn grym yn ystod y gystadleuaeth.
3. Pysgota gyda phluen neu bry genwair yn unig ar y dydd - dim 'powerbait' na phluen hefo swigen.
4. Bydd y gystadleuaeth yn cael ei hennill gan y pysgotwr gyda'r brithyll trymaf ym mhob adran.
5. Tal Cystadlu - 16 oed ac iau - Cystadlu am ddim
Oedolion £2 - £1 am y gystadleuaeth a £1 i bwl yr oedolion
6. Gwobrau - 16 oed ac iau Pluen/Pry genwair 1af- £10 a Chwpan, 2il - £7, 3ydd - £5.
Oedolion - Cwpan yr adran

3. Cystadleuaeth yr Afonydd
Mae'r gystadleuaeth yma yn agored i holl aelodau'r Gymdeithas eto eleni. Caiff y pysgotwr sydd yn dal y pysgodyn trymaf o un o afonydd y Gymdeithas Gwpan Thomas Alfred i'w dal am flwyddyn. Os ydych yn dal pysgodyn ac am ei gynnwys yn y gystadleuaeth rhaid i chi gael ei bwyso gan aelod o'r pwyllgor yn syth ar ôl ei ddal.

4. Cychod Llyn Ogwen
Cofiwch fod gan bob oedolyn sydd yn aelod o'r Gymdeithas un tocyn fin nos ar ei drwydded sydd yn ei ganiatáu i ddefnyddio un o gychod y Gymdeithas ar Lyn Ogwen am ddim.

5. Gwaith cynnal a chadw
Mae'r gwaith cynnal a chadw ar yr afon yn dal i fynd yn ei flaen, mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi gorffen y gwaith yn Llyn Dan Cob a Llyn Wern. Yn ogystal mae rhai o aelodau'r Pwyllgor Gwaith wedi bod yn brysur yn torri llawer o frigau yng nghyffiniau'r pyllau yma a hefyd yn 'Half Way'. Mae llawer mwy o waith angen ei wneud gan nad oes dim wedi ei wneud ar rannau o'r afon ers blynyddoedd. Os oes genych ddiddordeb mewn helpu gyda'r gwaith cynnal a chadw o bryd i'w gilydd rhowch wybod i'r Ysgrifennydd.

6. Pwyllgor Gwaith
Mae gwir angen gwaed newydd ar y Pwyllgor Gwaith, cyfran fechan o aelodau'r Gymdeithas sydd yn ysgwyddo'r baich o redeg y Gymdeithas ar ran gweddill yr aelodau gyda llawer ohonynt ar y Pwyllgor ers blynyddoedd maith ac yn gwneud y gwaith yn ddi rwgnach. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi colli llawer oddi ar y Pwyllgor sydd yn gallu ei gwneud yn anodd ar brydiau i gael y nifer sydd yn angenrheidiol i gynnal cyfarfod. Os allwch sbario un nos Fercher y mis 10 gwaith y flwyddyn cysylltwch â'r Ysgrifennydd am fwy o wybodaeth.

Yn ôl i'r rhestr adroddiadau