Cylchlythyr
1 Chwefror 2006
1. Cyfarfod Blynyddol 2005
Dyma brif bwyntiau Cyfarfod Blynyddol 2005
1) Mae is-ddeddfau newydd Asiantaeth yr Amgylchedd
nawr mewn grym.
Yn yr Is-ddeddfau mae tymor yr Eog wedi ei ymestyn hyd at 31 Hydref.
Ar ôl 17 Hydref cyfyngir y pysgota i'r rhan o'r afon sydd
rhwng Pont y Pandy a Phont Brynbella.
Rhaid dychwelyd unrhyw bysgodyn a ddelir yn ôl i'r afon
cyn gynted a bo modd.
Cytunwyd yn y Cyfarfod Blynyddol mai pluen fydd yr unig ddull
a ganiateir ar ôl 17 Hydref.
2) Cytunwyd i godi prisiau'r trwyddedau canlynol
o £1 ar gyfer eleni, Oedolion- £66, Consesiwn- £66,
Pensiynwyr- £41.
Bydd prisiau trwyddedau'r ifanc yn aros yr un fath a llynedd,
sef 12 i 16 oed- £25, o dan 12- £10.
3) Bu cynnydd yn y defnydd o'r cychod y llynedd,
cytunwyd i barhau i roi tocyn fin nos am ddim gyda thrwyddedau
oedolion, mae'r rheolau ar gyfer defnyddio'r tocyn am ddim yr
un fath a llynedd
i) Ni fydd modd bwcio cwch ymlaen llaw gyda thocyn am ddim.
ii) Rhoddir blaenoriaeth i'r sawl sydd yn talu am ddefnyddio'r
cwch.
iii) Un waith yn unig y gall aelod ddefnyddio ei docyn am ddim.
Arwyddir y tocyn yng Nghaffi Rhaeadr
Ogwen i ddangos ei fod wedi ei ddefnyddio pan fydd yr aelod yn
casglu goriad y cwch.
2. Swyddogion
Llywydd - John Davies, Cadeirydd/Trysorydd - Bryn Evans, Is-gadeirydd
- Gareth Jones,
Ysgrifennydd - Iorwerth Griffith.
3. Cwpan Thomas Alfred
Enillwyd cwpan Thomas Alfred am y pysgodyn trymaf i'w ddal yn
yr afon y llynedd gan Reuben Woodford
gydag eog 14 pwys 5 owns.
4. Cystadleuaeth Llyn Ogwen
Cymrodd 29 ran yn y gystadleuaeth llynedd, y pysgotwyr llwyddiannus
oedd -
Pry genwair 16 ac iau - 1af - Darren Jones, 2il - Tomos Sewell,
3ydd - Hedd Roberts.
Pluen 16 ac iau - Neb wedi cystadlu.
Pry genwair Oedolion - Richard Hughes.
Pluen Oedolion - Emyr Wyn Evans.
Diolch i Alan Davies unwaith eto'r am wobrau ariannol yr ifanc.
5. Stocio
Bwriedir stocio Llyn Ogwen yn ystod wythnos olaf y misoedd canlynol
-
Ebrill, Mai, Mehefin, Gorffennaf ac Awst.
Mae'r Pwyllgor yn derbyn cwynion yn flynyddol am rai yn dal a
chadw mwy na'r 4 pysgodyn a ganiateir yn
Llyn Ogwen mewn unrhyw ddiwrnod, ond gan nad oes neb yn fodlon
enwi unrhyw un yn benodol nid ydym
wedi gallu gwneud dim hyd yma. Bydd aelodau'r Pwyllgor yn cadw
llygaid ar y sefyllfa eleni ac yn ymweld â'r llyn ar adegau
penodol. Mae gan aelodau'r Pwyllgor yr hawl i weld trwydded unrhyw
bysgotwr yng
nghyffiniau ein dyfroedd ac i gael gweld beth mae wedi ei ddal.
6. Cychod
Cafwyd cais gan un o'n haelodau newydd am wers ar sut i drin y
cychod yn Llyn Ogwen, sut i'w cael o'r cwt a'u dychwelyd yn ddiogel,
ble mae'r mannau peryglus yn y llyn (creigiau dan y wyneb). Os
oes genych ddiddordeb, cysylltwch â'r Ysgrifennydd, ac fe
allwn drefnu cyfarfod ger y cwt cwch rhyw brynhawn neu fin nos
gyfleus.
7. Marciau Sbinio
Mae nifer o'r marciau sbinio yn aneglur ac yn anghyson erbyn hyn.
Bydd marciau newydd yn cael eu gosod yn y mannau canlynol ar yr
afon. Pont y Twr, Llyn Afon Ganol (ger y cae pêl droed),
Pont yr Inn (tu ôl i fflatiau Arafa Don), Pont Sarnau (tu
cefn i'r caeau rygbi), Brynbella, Llyn Dderwen Gam, Llyn Ddol
a Cafn. Y bwriad yw gosod platiau dur di-staen. Ni fydd hawl gan
unrhyw un i sbinio pan fo lefel y dwr o dan waelod y platiau yma,
heblaw am y cyfnod 8 - 17 o Hydref, pan ellir sbinio gyda lefel
yr afon yn is na'r marciau, cyn belled nad yw'r bachyn ar y troellwr
yn fwy na maint 4.
Erbyn canol Ebrill bydd map yn cynnwys enwau pyllau ar y safle
gwe, bydd lleoliad y marciau sbinio i'w
gweld arno.