Cylchlythyr
2 Chwefror 2006
1. Cystadleuaeth Llyn Ogwen
Bydd y gystadleuaeth eleni yn cael ei chynnal ar Ddydd Sul, 6ed
o Awst, rhwng 10:00 y bore a 3:00 y prynhawn. Gofynnir i bawb
gyfarfod yn y maes parcio ger Pen Bryn Melyn i gofrestru mewn
da bryd i gael dechrau pysgota am ddeg.
Rheolau'r gystadleuaeth
1. Gwaherddir pysgota yn y llyn o awr wedi machlud yr haul Nos
Sadwrn, 5ed o Awst tan ddechrau'r gystadleuaeth am 10:00, yn ogystal
gwaherddir unrhyw un sydd ddim yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth
rhag pysgota yn y llyn tan ddiwedd y gystadleuaeth.
2. Ni fydd y 'bag limit' arferol ar gyfer Llyn Ogwen mewn grym
yn ystod y gystadleuaeth.
3. Pysgota gyda phluen neu bry genwair yn unig ar y dydd - dim
'powerbait' na phluen hefo swigen.
4. Enillir y gystadleuaeth ym mhob adran gan y pysgotwr gyda'r
brithyll trymaf.
5. Tâl Cystadlu - 16 oed ac iau - Cystadlu am ddim
Oedolion £2 - P?l i'w rannu rhwng enillwyr y ddwy adran.
6. Gwobrau - 16 oed ac iau Pluen/Pry genwair 1af- £10 a
Chwpan, 2il - £7, 3ydd - £5.
Oedolion - Cwpan yr adran
2. Cystadleuaeth yr Afonydd
Mae'r gystadleuaeth yma yn agored i holl aelodau'r Gymdeithas
eto eleni. Caiff y pysgotwr sydd yn dal y pysgodyn trymaf o un
o afonydd y Gymdeithas Gwpan Thomas Alfred i'w dal am flwyddyn.
Os ydych yn dal pysgodyn ac am ei gynnwys yn y gystadleuaeth rhaid
i chi gael ei bwyso gan aelod o'r pwyllgor cyn gynted a bo modd
ar ôl ei ddal.
3. Cychod Llyn Ogwen
Cofiwch fod gan pob oedolyn sydd yn aelod o'r Gymdeithas un tocyn
fin nos ar eu trwydded sydd yn caniatáu defnydd o un o
gychod y Gymdeithas ar Lyn Ogwen am ddim.
4. Bathodyn
Yn ddiweddar cafwyd cais gan un o'n haelodau am fathodyn
y Gymdeithas. Gan nad oes un ar gael ar hyn o bryd teimlai'r pwyllgor
y byddai yn syniad da i ni gael un. Mae'n debyg y bu gan y Gymdeithas
fathodyn ar un adeg ac felly da o beth fyddai seilio'r bathodyn
newydd ar hwn. Os oes ganddo'ch un o'r hen fathodynnau a fyddech
mor garedig â chysylltu â'r Ysgrifennydd er mwyn cael
gwneud copi ohono.
5. Hanes y Gymdeithas
Mae rhai o aelodau'r pwyllgor yn ceisio casglu hanes y Gymdeithas,
os oes gennych unrhyw hanesyn diddorol neu ddigri, neu ffotograffau
yn ymwneud â physgota yn yr ardal, a fyddech cystal â
chysylltu â'r Ysgrifennydd.
6. Eisteddfod Dyffryn Ogwen
I'r rhai ohono'ch sy'n cawio plu, cofiwch am gystadleuaeth yr
Eisteddfod. Gofynnir am 6 pluen brithyll gwahanol ynghyd a'u henwau.
Mae tri adran, sef, o dan 12, o dan 18 ac oedolion. Dylid mynd
a'r plu i Ysgol Dyffryn Ogwen, Nos Wener, 17 o Dachwedd, rhwng
4:00 a 5:00 o'r gloch ar gyfer eu beirniadu.
7. Cyfarfod Blynyddol 2006
Cynhelir y Cyfarfod Blynyddol yng Nghanolfan Cefnfaes
ar Nos Fercher, 29ain o Dachwedd,
am 7:15 yr hwyr. Os oes gan unrhyw aelod o'r Gymdeithas fater
i'w godi yn y cyfarfod, dylid gyrru'r manylion mewn llythyr at
yr Ysgrifennydd i'w gyrraedd dim hwyrach na phythefnos cyn dyddiad
y cyfarfod. (H.Y. erbyn dydd Mercher 15fed o Dachwedd)