Cylchlythyr 1 2007
1. Prif bwyntiau Cyfarfod
Blynyddol 2006
1) Er mwyn cysoni rheolau'r Gymdeithas
a rheolau Asiantaeth yr Amgylchedd, mae maint brithyll a ellir
ei gadw wedi ei godi o 190mm (7.5 modfedd) i 200mm (8 modfedd).
2) O hyn ymlaen bydd yn rhaid i'r
Gymdeithas dalu TAW ar y rhent yr ydym yn ei dalu i'r Stad am
y dyfroedd. Golyga hyn y bydd costau'r Gymdeithas yn codi yn sylweddol,
felly bydd yn rhaid codi pris y drwydded eto eleni, ond yn ffodus
mae cynnydd wedi bod yn nifer yr aelodau yn ystod y ddau dymor
diwethaf, oherwydd hyn nid yw'r codiad yn un mawr. Bydd prisiau'r
trwyddedau canlynol yn codi £2.
Oedolion- £68, Consesiwn- £68, Pensiynwyr- £43.
3) Gan fod nifer cynyddol o'n haelodau ifanc yn parhau â'u
haddysg ar ôl cyrraedd 16 cytunwyd i ymestyn oedran trwydded
yr ifanc i 18, bydd pris trwyddedau'r ifanc yn aros fel y llynedd,
sef 12 i 18 oed- £25, o dan 12- £10.
4) Cytunwyd i barhau i roi un tocyn
fin nos am ddim ar gyfer cychod Llyn Ogwen gyda thrwyddedau'r
oedolion, mae'r rheolau ar gyfer defnyddio'r tocyn am ddim yr
un fath a llynedd.
i) Ni fydd modd bwcio cwch ymlaen llaw gyda thocyn am ddim.
ii) Rhoddir blaenoriaeth i'r sawl sydd yn talu am ddefnyddio'r
cwch.
iii) Un waith yn unig y gall aelod ddefnyddio ei docyn am ddim.
Arwyddir y tocyn yng Nghaffi Rhaeadr
Ogwen i ddangos ei fod wedi ei ddefnyddio pan fydd yr aelod yn
casglu goriad y cwch.
2. Swyddogion
Llywydd - John Davies, Trysorydd - Bryn Evans, Ysgrifennydd -
Iorwerth Griffith.
3. Cwpan Thomas Alfred
Enillwyd cwpan Thomas Alfred am y pysgodyn trymaf i'w ddal yn
yr afon y llynedd gan Gwilym Williams.
4. Cystadleuaeth Llyn Ogwen
Cymrodd 27 ran yn y gystadleuaeth llynedd, y pysgotwyr llwyddiannus
oedd -
Pry genwair 16 ac iau - 1af - Llyr Alun Jones, 2il - Morgan Jones,
3ydd - Siôn Roberts.
Pluen 16 ac iau - Neb wedi cystadlu.
Pry genwair Oedolion - Derfel Williams.
Pluen Oedolion - Kevin Hughes.
Diolch i Alan Davies unwaith eto am wobrau ariannol yr ifanc.
5. Cwpan Eryl Jones
Mae teulu'r diweddar Eryl Jones wedi cyflwyno cwpan i'r Gymdeithas
er cof amdano.
Gan mai pysgota pluen am frithyll brown gwyllt oedd pleser Eryl,
bwriedir cynnal cystadleuaeth bluen yn Llyn Idwal rhyw fin nos
ym mis Gorffennaf. Bydd mwy o wybodaeth am hyn yng nghylchlythyr
yr haf.
6. Stocio
Bwriedir stocio Llyn Ogwen yn ystod wythnos olaf y misoedd canlynol
-
Mawrth, Ebrill, Mai, Mehefin a Gorffennaf.
7. Sbwriel
Mae cwynion wedi dod i law fod rhai o'n haelodau yn gadael sbwriel
ar eu hol ar lannau'r dyfroedd, yn enwedig
potiau powerbait ar lan Llyn Ogwen. Gofynnir i bawb fynd a'u sbwriel
o lannau'r dyfroedd a chael gwared arno
mewn ffordd gyfrifol.