Cylchlythyr Haf 2007
1. Cystadleuaeth Llyn Ogwen
Bydd y gystadleuaeth eleni yn cael ei chynnal ar Ddydd Sul, 5ed
o Awst, rhwng 10:00 y bore a 3:00 y prynhawn. Cofrestru ym maes
parcio Pen Bryn Melyn o 9:30 ymlaen.
Rheolau'r gystadleuaeth
1. Gwaherddir pysgota yn y llyn o awr wedi machlud yr haul Nos
Sadwrn, 4ydd o Awst tan ddechrau'r gystadleuaeth. Yn ogystal ni
chaiff unrhyw un sydd ddim yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth bysgota
yn y llyn tan ddiwedd y gystadleuaeth.
2. Ni fydd y 'bag limit' arferol ar gyfer Llyn Ogwen mewn grym
yn ystod y gystadleuaeth.
3. Pysgota gyda phluen neu bry genwair yn unig - dim 'powerbait'
na phluen hefo swigen.
4. Enillir y gystadleuaeth ym mhob adran gan y pysgotwr gyda'r
brithyll trymaf.
5. Tâl Cystadlu - 16 oed ac iau - Cystadlu am ddim
Oedolion £2 - P?l i'w rannu rhwng enillwyr y ddwy adran.
6. Gwobrau - 16 oed ac iau Pluen/Pry genwair 1af- £10 a
Chwpan, 2il - £7, 3ydd - £5.
Oedolion - Cwpan yr adran
2. Cystadleuaeth Llyn Idwal
Bydd y gystadleuaeth newydd yma yn cael ei chynnal yn Llyn Idwal
fin Nos Wener 6ed o Orffennaf, bwriedir dechrau pysgota am 18:00.
Cofrestru ger y llyn o 17:30 ymlaen.
Y brif wobr fydd cwpan Eryl Jones i'w dal am flwyddyn. Ynghyd
â gwobr ariannol.
Y Rheolau
Pluen yn unig, (dim swigen).
Ni ddylai unrhyw un sy'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth ddechrau
pysgota cyn 18:00.
Mae'r gystadleuaeth yn agored i bob oedran.
Tâl cystadlu - £2 (P?l yr enillydd)
Enillir y gystadleuaeth gan y pysgotwr gyda'r brithyll trymaf.
3. Cystadleuaeth yr Afonydd
Mae'r gystadleuaeth yma yn agored i holl aelodau'r Gymdeithas.
Caiff y pysgotwr sydd yn dal y pysgodyn trymaf o un o afonydd
y Gymdeithas Gwpan Thomas Alfred i'w dal am flwyddyn.
Os ydych yn dal pysgodyn ac am ei gynnwys yn y gystadleuaeth rhaid
i chi gael ei bwyso gan aelod o'r Pwyllgor cyn gynted a bo modd
ar ôl ei ddal.
4. Melin Coetmor
Mae'r ffens tu cefn i'r felin wedi ei thrwsio (ble'r oedd camfa
ar un tro). Nid oes gennym hawl i groesi'r ffens yma, yn hytrach
dylai pawb ddefnyddio'r gamfa haearn goch sydd yn croesi'r wal
o'r ffordd i'r cae rhyw ddeg medr i fyny o giât y felin.
Yn ogystal, ni ddylai unrhyw un barcio ym maes parcio'r felin.
5. Adnewyddu Les
Mae'r Les wedi ei hadnewyddu am 12 mlynedd arall. Gan fod y Stad
wedi gwerthu'r argae a rhywfaint o dir o'i amgylch ar Afon Galedffrwd
(Rocar), nid yw aelodaeth o'r Gymdeithas yn rhoi hawl i'r unigolyn
bysgota Afon Galedffrwd o'r bont ble mae yn mynd o dan y ffordd
B4409 ger ffatri Bradite hyd at ble mae'r bont droed yn ei chroesi
ger 'Yr Ocar'.
6. Cyfarfod Blynyddol 2007
Cynhelir y Cyfarfod Blynyddol yng Nghanolfan Cefnfaes ar Nos Fercher,
28ain o Dachwedd,
am 7:15 yr hwyr. Os oes gan unrhyw aelod o'r Gymdeithas fater
i'w godi yn y cyfarfod, dylid gyrru'r manylion mewn llythyr at
yr Ysgrifennydd i'w gyrraedd dim hwyrach na phythefnos cyn dyddiad
y cyfarfod. (H.Y. erbyn dydd Mercher 14eg o Dachwedd).