TRWYDDEDAU

Prisiau trwyddedau ymwelwyr 2007

OEDOLION DYDD: £14.00

OEDOLION WYTHNOS: £35.00

PLENTYN DYDD (16 a iau): £6.00

PLENTYN WYTHNOS (16 a iau): £15.00

Mae trwyddedau ymwelwyr ar gel gan y canlynol

Caffi Rhaeadr Ogwen, ger Llyn Ogwen

Parc carafannau Ogwen Bank

Siop Mr W.Edwin Jones grocer, gyferbyn a Gwesty'r Victoria

Fferm Dinas ger Tregarth

 

Trwydded Tymor

Mae trwydded tymor ar gael i drigolion lleol sydd yn byw o fewn dalgylch y Gymdeithas

Trwyddedau Consesiwn

Yn ogystal a'r trwyddedau ymwelwyr a restrir uchod mae gan y Gymdeithas nifer benodol o drwyddedau tymor consesiwn ar gael ar gyfer rhai sydd yn byw oddi allan i ddalgylch naturiol y Gymdeithas.

Os oes ganddoch ddiddordeb yn un o'r trwyddedau yma anfonwch e-bost at yr Ysgrifennydd drwy ddefnyddio y botwm Cysylltu ar y chwith.

Rheolau'r Gymdeithas

1 Y dyfroedd a neilltuir ar gyfer pysgota fydd llynnoedd Ogwen, Bochlwyd, Idwal a Ffynnon Lloer. Hefyd y rhannau hynny o'r dyfroedd o Bont y Pandy, Halfway hyd at Bontwr a Phont Ceunant, Ty'n y Maes hyd Llyn Ogwen ynghyd â'r holl ddyfroedd a'r ffrydiau sy'n ymarllwys i'r rhannau hyn o'r afon.

2 Lleiafswm mesurau'r pysgod a ganiateir eu dal a'u cadw, yn mesur o'r trwyn i fforch y gynffon, yw fel â chanlyn:-
Brithyll - Saith modfedd a hanner (190 mm)
Gwniadau - Deg modfedd (250 mm)
Eog - Deuddeg modfedd (300 mm)

3 Mae bachu pysgodyn yn anghyfreithlon ar fwriad yn drosedd. Os yw pysgodyn wedi ei fachu yn anghyfreithlon yna dylid ei ryddhau yn ôl i'r dyfroedd yn syth gan achosi cyn lleied o niwed iddo â phosib.

4 Ni chaniateir i bysgotwr bysgota mewn pwll am fwy nag ugain munud wedi i bysgotwr arall ddatgan dymuniad i bysgota'r pwll hwnnw ac sy'n aros gerllaw nes bydd yr amser hynny wedi dod i ben.

5 Gwaherddir sbinio ar yr afon pan fo lefel y dwr yn is na'r llinellau gwyn sydd ar y pontydd a'r creigiau. Anwybyddir y rheol hon wedi Hydref 7 ond bydd yn rhaid defnyddio bachyn maint 4 neu lai.

6 Gwaherddir defnyddio pwysau o fewn 18 modfedd (450 mm) i'r bachyn.

7 Gwaherddir sbinio o unrhyw fath yn ystod oriau'r nos.

8 Cyfyngir Ffynnon Lloer i bysgota â phluen yn unig. Gwaherddir defnyddio fflôt ac unrhyw offer sbinio ar Ffynnon Lloer ac afon Lloer.

9 Ni chaniateir defnyddio cnonod a bwydo'r pysgod yn y llynnoedd. Caniateir pysgota cnonyn gyda phluen yn unig ar yr afonydd. Cyfyngir hyn i'r oriau rhwng un awr cyn machlud ac un awr ar ôl codiad yr haul.

10 Dim ond 4 pysgodyn i'w dal a'u cadw mewn un diwrnod yn Llyn Ogwen. Gofynnir i'r aelodau roi'r gorau i bysgota ar ôl dal a chadw pedwar pysgodyn. Bydd gan giperiaid y Gymdeithas yr hawl i archwilio bagiau a char yr aelodau ac i anfon o lan y dyfroedd unrhyw un sy'n gwrthod ac fe ddiddymir ei docyn aelodaeth.

11 Gwaherddir defnyddio fflôt tiwb ar unrhyw ran o'r dyfroedd.

12 Rhaid i bob pysgotwr ddangos ei drwydded a thocyn aelodaeth pan ofynnir iddo gan aelod sy'n gallu dangos ei aelodaeth neu awdurdod arall, cipar y Gymdeithas neu gipar Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae gan y personau hyn hawl i anfon o gyffiniau'r dyfroedd unrhyw un sy'n gwrthod ac fe ddiddymir ei docyn aelodaeth.

13 Nid yw'r Gymdeithas yn gyfrifol am unrhyw ddamwain, niwed neu anhap i bysgotwr wrth bysgota neu wrth ddefnyddio llwybrau, cychod a chamfeydd yng nghyffiniau'r afonydd a'r llynnoedd.

14 Rhaid i'r pysgotwr barchu hawliau'r tenantiaid a'r tirfeddianwyr trwy gadw at lwybrau penodedig ger glannau'r dyfroedd a gofalu bod pob giât yn cael ei chau'n ddiogel ar ôl ei defnyddio. Ni chaniateir i bysgotwyr fynd â chwn gyda hwy. Rhaid peidio malurio camfeydd na pharcio moduron ar dir neb heb yn gyntaf gael caniatâd y perchennog.

15 Rhaid mynd â phob ysbwriel oddi wrth lannau'r dyfroedd.

16 Gwaherddir pysgota ar y rhan hynny o'r afon Ogwen o Pont Ceunant, Ty'n y Maes hyd at Llyn Ogwen ar ôl 30 Medi.

17 Gofynnir i bob aelod ddarllen a dilyn y rheolau sy'n berthnasol i ddefnyddio'r cychod ar Llyn Ogwen. Mae'r rhain wedi eu harddangos yn y cwt cwch ac ar gael yn Caffi Ogwen Falls wrth brynu tocyn cwch.

18 Gwaherddir pysgota yn Llyn Ogwen o awr ar ôl machlud yr haul tan awr cyn codiad yr haul.

19 Gwaherddi'r gwerthu unrhyw bysgod a ddaliwyd yn nyfroedd y Gymdeithas.

20 Os yw unigolyn yn gofalu am un o aelodau'r Gymdeithas tra yn pysgota rhaid iddo/iddi feddu ar drwydded y Gymdeithas os yw yn rhoi cymorth i'r sawl sydd yn eu gofal gyda'i bysgota.

21 Disgwylir i unigolion ymddwyn mewn ffordd gyfrifol yng nghyffiniau dyfroedd y Gymdeithas. Ni chaniateir i aelod amharu ar bysgod neu bysgotwyr mewn unrhyw ffordd.

22 Os bydd i aelod dorri un o reolau'r Gymdeithas gellir diddymu'r aelodaeth ac o bosib dwyn achos cyfreithiol yn erbyn yr unigolyn a rhoddir enw'r unigolyn ar Restr Atal Genweirwyr Gwynedd. Ni fydd gan yr unigolyn hawl i ail ymaelodi â'r Gymdeithas am gyfnod a bennir gan y Pwyllgor. Wedi i'r cyfnod yma ddod i ben bydd rhaid i'r unigolyn wneud cais ysgrifenedig am ganiatâd i ail ymaelodi â'r Gymdeithas. Bydd hawl gan y Gymdeithas i wrthod y cais hwnnw.


Rheolau'r Cychod

Neulltir y cychod yn Llyn Ogwen i oedolion sydd yn aelodau o'r Gymdeithas a chanddynt drwydded tymor.

Amodau Hurio


1. Ni fydd y Gymdeithas yn gyfrifol am unrhyw niwed i, neu golled bywyd yr huriwr a/neu ei gydymaith.

2. Bydd yr huriwr yn gyfrifol am y gwch ac unrhyw offer ynddi.

Y Rheolau

1. Aelodau'r Gymdeithas yn unig i gael gwneud defnydd o'r cychod. Ni chaniateir person heb awdurdod i ddefnyddio'r cychod na'r cwt cwch.

2. Dylai'r huriwr fodloni ei hun nad yw'r huriwr blaenorol wedi gwneud unrhyw ddifrod i'r gwch.
Os oes difrod gadewch i'r Ysgrifennydd wybod ar unwaith.

3. Ni chaniateir mwy na 2 berson ar y ddwy gwch fwya ar y tro.

4. Ni chaniateir mwy na 1 person ar y gwch fach goch ar y tro.

5. Ar ddiwedd pysgota dylid dychwelyd y gwch i'r cwt cwch a'i chodi 36" uwchben y dwr a'i chlymu'n ddiogel fel y cafwyd hi. Dylid cloi a bolltio'r drysau i gyd a dychwelyd y goriadau i gaffi Ogwen Falls. Os yw'r caffi ar gau gadewch y goriadau efo aelod o staff yn Hostel Ogwen Cottage.

6. Os na all yr huriwr gadw at Rheol 5 dylid llusgo'r gwch allan o'r dwr a sicrhau ei bod yn ddiogel a dylai'r rhwyfau a'r rolocs gael eu dychwelyd i'r cwt cwch,
Gadewch i'r ysgrifennydd wybod ar unwaith.

7. Ni chaniateir defnyddio angor efo unrhyw un o'r cychod, ond gellir ddefnyddio drog addas.

8. Ni chaniateir i blant 16 oed ac o danodd hurio cwch.

9. Ni chaniateir i huriwr drosglwyddo'r gwch i huriwr arall.

10. Ni chaniateir spinio na trowlio o'r gwch heblaw fel y caniateir yn rheol 15.

11. Dylid gwisgo siaced achub bob amser pan ar y gwch. Mae'r sawl sydd yn defnyddio y cychod yn gyfrifol am ddarparu eu siacedi eu hunain.

12. Ni chaniateir injan betrol na diesel o gwbwl ar y cychod.

13. Caniateir injan drydan cyn belled fod y batri wedi ei selio.

14. Mae eich diogelwch yn eithriadol o BWYSIG. Os gwelwch yn dda peidiwch a chymryd siawns a gwnewch gynlluniau addas ymlaen llaw.

15. Mae hawl spinio ar y cychod o dan yr amodau canlynol:
(i) Ni chaniateir defnyddio abwyd o unrhyw fath, gan gynnwys "Powerbait".
(ii) Dim ond troellwr o'r math "Mepps" yn unig i'w defnyddio.
(iii) Dim trolio.
(iv) Dim defnyddio swigen.