Dyfroedd Y Gymdeithas

Afon Ogwen

Mae dyfroedd y Gymdeithas ar yr Afon Ogwen wedi eu rhannu yn ddau ac mae i'r ddau rinweddau cwbwl wahanol.

Mae'r afon yn cychwyn yn Llyn Ogwen ac yn disgyn yn gyflym i lawr Rhaeadrau Ogwen sydd yn llawn man byllau, dyma'r unig le ar yr afon y mae'r brithyll brown gwyllt yn ei gael iddo ei hun, yng ngweddill y dyfroedd mae ganddo eogiaid a gwniadau yn gwmpeini.

Wedi cyrraedd llawr y dyffryn mae taith yr afon yn arafu yn sylweddol, yn lleol gelwir yr ardal yma 'Y Marddwr'. Mae'r afon yn troelli ei ffordd i lawr llawr y dyffryn gyda rhai pyllau dyfnion ble bydd yr eogiaid a'r gwniadau yn llechu i ddisgwyl eu hamser i gladdu yn y greuan glan ar wely'r brif afon ac eraill yn mentro i'r nifer o nentydd bychain sydd yn llifo iddi.

Daw rhan gyntaf dyfroedd y Gymdeithas ar yr afon i ben ble y llifa'r afon dan Bont Ty'n Y Maes. Er mwyn rhoi chware teg i'r eogiaid ar gwniadau sydd wedi brwydro yn galed i gyrraedd y rhan yma o'r afon ag sydd wedi bod ynddi ers rhai misoedd gwaherddir pysgota yn y rhan yma o'r afon ar ôl Medi 30.

Mae ail ran y dyfroedd yn cychwyn o Bont Y Twr islaw maes carafannau Ogwen Bank, yma mae'r afon yn gwau ei ffordd heibio i'r cae peldroed a phentref Bethesda gyda chymysgedd da o byllau dyfnion a rhediadau cyflym.

Wrth iddi adael Bethesda tu cefn iddi mae yn arafu ei thaith rhyw ychydig wrth basio heibio Dol Ddafydd a Dol Goch cyn cyrraedd Pont Brynbela.

O fan hyn i Bont 'Halfway' mae rhai o byllau gorau a mwyaf poblogaidd yr afon, yma hefyd mae'r llwybrau garwaf (does 'na ddim byd yn hawdd yn yr hen fyd ma') Daw dyfroedd y Gymdeithas i ben fel y diflana'r afon dan Bont 'Halfway'.

 

Y Llynnoedd

 

Llyn Ogwen

Gan fod Llyn Ogwen yn gorwedd ar bwys yr A5 rhyw dair milltir o Fethesda, hwn yw llyn mwyaf poblogaidd y Gymdeithas. Mae nifer o fannau parcio hwylus ar hyd ochr y llyn. Wedi ei leoli ym mhen uchaf Nant y Benglog mae'n llyn o thua milltir o hyd a chanddo arwynebedd o 78 acer a dyfnder o ryw ddeg troedfedd yn y man tyfna.
Yn ogystal â'r Brithyll Brown sy'n naturiol i'r llyn mae'r Gymdeithas yn stocio gyda Brithyll Enfys yn ystod y tymor. Gall yr amrywiaeth yma o bysgod gwyllt cyfrwys a physgod stoc pwerus gynnig diwrnod ardderchog o bysgota.

Caniateir defnyddio Pry genwair, sbinio, chwipio neu fflot bybl yma.

 

Llyn Idwal

Mae Llyn Idwal sydd yn 28 acer yn gorwedd yng nghesail y Glyderau ac yn denu llu o ymwelwyr yn gerddwyr a dringwyr yn ogystal â physgotwyr pob tymor. Dyma'r man cyntaf yng Nghymru i gael ei wneud yn warchodfa natur genedlaethol. Mae llwybr hwylus yn arwain o Gaffi Rhaeadr Ogwen i'r llyn.

Gan fod yn llyn yn rhyw 38 troedfedd ar ei ddyfna rhaid bod yn wyliadwrus pan yn wadio yma. Mae pysgod y llyn yma gyda'r gorau. Nid bob tro yn hawdd i'w bachu ond yn sicr yn ymladd yn bwerus.
Brithyll brown gwyllt geir yma, ond flynyddoedd maith yn ôl rhoddwyd pysgod o Loch Leven yn y llyn gan yr Arglwydd Penrhyn. Caniateir defnyddio Pry genwair, sbinio, chwipio neu fflot bybl yma.

 

Ffynnon Lloer

Mae Ffynnon Lloer wedi ei leoli mewn cwm bychan yng ngesail Carnedd Dafydd uwchben pen pellaf Llyn Ogwen. Mae llwybr yn arwain i fyny i'r llyn ond gall fod ychydig yn serth mewn mannau. Ond mae'r daith yn werth ei gwneud.

Chwipio a phluen yw'r unig ddull a ganiateir yma, Mae'r pysgota ar ei ora ym misoedd cynnes yr Haf, pan fydd y pysgod yn bwydo yn eu cannoedd ar y llu pryfetach naturiol a geir yma. Plu bychain traddodiadol yw'r gorau i'w defnyddio.

Brithyll brown gwyllt geir yma. Mae'n bosib wadio mewn rhai mannau gyda phwyll, ond gellir pysgota rhan fwyaf o'r llyn o'r glannau.

 

Llyn Bochlwyd

Wedi ei guddio mewn cwm bychan yng nghesail mynyddoedd Tryfan a Glyder Fawr. Mae'r olygfa o Nant Ffrancon sydd i'w weld o'r cwm yma yn cyfiawnhau'r ymdrech lew sydd ei angen i'w gyrraedd.
Yma ceir Brithyll gwyllt, bywiog sy'n ymladd yn galed ac yn cynnig sialens deg i unrhyw bysgotwr. Gan mai llyn cymharol fychan yw Bochlwyd, pysgota'r glannau gyda blaen llinyn o blu tywyll yw'r drefn arferol a'r mwyaf llwyddianus
Cyfeirir ato fel 'Llyn Awstralia' gan y niferoedd o ddringwyr sy'n ymweld ar ardal.

Diogelwch

Fel gyda phob gweithgaredd hamdden mae elfen o berygl ynglwm a physgota. Dylid cymryd gofal ar lan dyfroedd y Gymdeithas yn enwedig os ydych am ymweld Lloer a Bochlwyd, byddai par da o esgidiau cerdded yn syniad da ynghyd ag amrywiaeth o ddillad a digon o ddiod i'w yfed ar y daith. Edrychwch ar adroddiad tywydd lleol cyn cychwyn, wedi cyrraedd cadwch lygaid ar y tywydd gan y gall newid yn sydyn ar y mynyddoedd. Gadewch ddigon o amser ar gyfer dychwelyd.

Yn ogystal dylid cymryd gofal yn nghyffuniau'r afon yn enwedig pan fo glaw trwm oherwydd gall yr afon godi yn sydyn, hefyd bydd y creigiau yn llithrig.